Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Geirfa o dermau a ddefnyddir ar-lein

Ydy porwyr a firysau yn eich drysu? Mae ein geirfa o dermau ar-lein yn esbonio beth maen nhw'n ei olygu.

Gwrth-ysbïwedd

Yn helpu i amddiffyn eich cyfrifiadur rhag ffenestri naid, cyfrifiadur araf a bygythiadau i ddiogelwch eich cyfrifiadur a achosir gan ysbïwedd a meddalwedd diangen eraill.

Gwrth-feirws

Meddalwedd sy'n canfod ac yn atal firysau hysbys rhag ymosod ar eich cyfrifiadur.

Apiau

Math o raglen gyfrifiadurol y gallwch ei lawrlwytho ar gyfer eich cyfrifiadur, tabled neu ffôn symudol. Mae cannoedd o wahanol apiau ar gael, rhai am ddim, sy'n gwneud llawer o wahanol bethau, o chwarae gemau a phosau, i'ch hatgoffa i gymryd eich meddyginiaethau, neu ganiatáu i chi gael mynediad i'ch cyfrif banc.

Atodiad

Ffeiliau, megis lluniau, dogfennau neu raglenni, sy'n cael eu hanfon ynghyd ag e-bost.

Porwr

Y meddalwedd cyfrifiadurol neu'r ap rydych chi'n ei ddefnyddio i gael mynediad i'r rhyngrwyd. Mae enghreifftiau'n cynnwys Internet Explorer, Google Chrome a Safari.

Hacio

Ymgais i gael mynediad heb awdurdod i gyfrifiadur neu gyfrif.

Maleiswedd

Mae Maleiswedd yn fyr ar gyfer 'meddalwedd maleisus'. Term cyffredinol a ddefnyddir i gyfeirio at feddalwedd gelyniaethus neu ymwthiol.

System weithredu

Y meddalwedd sy'n rheoli rhaglenni gwahanol ar gyfrifiadur.

Gwe-rwydo

Ymgais i ddwyn gwybodaeth lle mae troseddwyr yn cyfeirio defnyddwyr at wefan ffug i'w twyllo i ddatgelu gwybodaeth breifat, fel enwau defnyddwyr neu gyfrineiriau.

Ffenestri naid

Ffenest fach sy'n ymddangos yn sydyn (neu'n 'popio fyny') ar dudalen we, fel arfer ar ffurf hysbyseb neu rybudd.

Proffil

Disgrifiad a allai gynnwys eich manylion personol ac sy'n cael ei ddefnyddio gan eraill i'ch adnabod ar wefan rhwydweithio cymdeithasol. Gellir ei wneud yn gyhoeddus (fel bod pawb yn medru ei weld) neu'n breifat (dim ond rhai pobl sy'n ei weld).

Llwybrydd

Dyfais sy'n cysylltu eich cyfrifiadur â llinell ffôn sy'n cael ei alluogi gan fand eang ac sy'n allyrru eich signal rhyngrwyd cartref.

Ffôn clyfar

Ffôn symudol sydd, yn ogystal â gwneud galwadau ac anfon negeseuon testun, yn gallu cysylltu â'r rhyngrwyd, anfon e-byst, a gwneud nifer o swyddogaethau eraill fel cyfrifiadur.

Gwefan rhwydweithio cymdeithasol

Cymuned ar-lein lle gallwch gysylltu â ffrindiau, teulu a phobl eraill sy'n rhannu eich diddordebau. Mae enghreifftiau'n cynnwys Facebook, Twitter ac Instagram.

Ebostach

E-bost masnachol na wnaethoch ofyn amdano, a elwir hefyd yn bost sbam.

Ysbïwedd

Rhaglen diangen sy'n rhedeg ar eich cyfrifiadur, a all ei gwneud yn araf ac annibynadwy neu hyd yn oed eich gwneud yn darged i droseddwyr ar-lein.

Tabled

Dyfais sydd ychydig yn fwy na ffôn gyda sgrin gyffwrdd sy'n gallu cysylltu â'r rhyngrwyd a chael ei ddefnyddio fel cyfrifiadur cludadwy.

Firysau

Rhaglenni sy'n lledu o un cyfrifiadur i'r llall drwy e-bost neu drwy wefannau maleisus. Gallant arafu eich cyfrifiadur, arddangos negeseuon a ffenestri naid diangen a hyd yn oed dileu ffeiliau.

Rhwydwaith diwifr

Fe'i gelwir hefyd yn wi-fi, mae hyn yn ffordd i'ch cyfrifiadur gysylltu â'r rhyngrwyd heb ddefnyddio gwifrau na cheblau.

Am fwy o wybodaeth ffoniwch Gyngor Age Cymru ar 0300 303 44 98

 

Last updated: Ion 12 2023

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top