Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Helpwch ni i fod ar gael ar ddyddiau da a dyddiau gwael

I'r rhan fwyaf o bobl, mae'r Nadolig yn gyfnod o ddathlu ac yn gyfle i dreulio amser gyda theulu a ffrindiau. Ond i lawer o bobl hŷn, mae’r Nadolig yn gyfnod anodd, gyda 84,670 o bobl hŷn yng Nghymru yn dweud y byddan nhw'n bwyta cinio Nadolig ar eu pennau eu hunain eleni.

Mae unigedd yn rhy gyfarwydd o lawer, gyda mwy na 112,200 o bobl hŷn yng Nghymru yn teimlo mai Dydd Nadolig yw diwrnod anoddaf y flwyddyn, a bron i 98,000 yn teimlo'n fwy ynysig ar Ddydd Nadolig nag unrhyw ddiwrnod arall.

Ni ddylai neb gael eu hanghofio.

Drwy gyfrannu at ymgyrch Nadolig Partneriaeth Age Cymru, (Age Cymru, Age Cymru Dyfed, Age Cymru Gwent, Age Cymru Gwynedd a Mon, Age Cymru Powys, Age Cymru West Glamorgan) gyda'ch cefnogaeth chi, gallwn barhau i fod yma i bobl hŷn sy'n byw yn eich cymuned. Gyda'n gilydd, gallwn fynd i'r afael â'r argyfwng unigrwydd.

Gyda'ch rhodd, gallwn barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol er mwyn ymateb i’r argyfwng unigrwydd a helpu i ddarparu cyfeillgarwch a chefnogaeth i'r rhai sydd ei angen fwyaf.

Bydd eich cefnogaeth yn ein galluogi i barhau i ddarparu gwasanaethau Cyfeillgarwch a Gwybodaeth a Chyngor hanfodol, gan ganiatáu i bobl hŷn elwa o gwmnïaeth a chyfeillgarwch trwy weithgareddau grŵp, digwyddiadau cymdeithasol, a chyswllt gan ein gwirfoddolwyr cyfeillgar a chefnogol.

Bydd eich help hefyd yn sicrhau bod pawb yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnynt i helpu gydag ystod o faterion sy'n effeithio ar bobl adeg y Nadolig, megis cefnogaeth ar gyfer pobl sydd wedi dioddef profedigaeth, costau cartref, gofal a chymorth, neu rydyn ni’n ceisio deall pa gymorth sydd ar gael yn eu cymuned leol.

Bydd unrhyw gefnogaeth yn cael effaith sylweddol ar fywydau'r 112,200 o bobl hŷn yng Nghymru sy'n teimlo eu bod yn cael eu hanghofio adeg y Nadolig.


Helpwch rywun i deimlo'n llai unig

Gyda'ch help chi, gallwn ddarparu cyfeillgarwch a chefnogaeth i'r miloedd o bobl hŷn sy'n treulio'r Nadolig ar eu pennau eu hunain.


Sut mae partneriaeth Age Cymru wedi gwneud gwahaniaeth

Mae Partneriaeth Age Cymru wedi bod yn cefnogi pobl hŷn yng Nghymru. Mae ein gwasanaethau cyfeillgarwch, gwybodaeth a chyngor hanfodol yn darparu cyfeillgarwch a chefnogaeth i filoedd o bobl hŷn.

  • Mae dros 46,000 o bobl hŷn wedi elwa o'n gwasanaeth cyfeillgarwch
  • Derbyniodd ein gwasanaeth gwybodaeth a chyngor dros 48,000 o ymholiadau.

Mae ein gwasanaethau cyfeillgarwch a chymorth hanfodol wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i Evan a Bronwen*

* Newidiwyd yr enwau i ddiogelu eu hunaniaeth).


"mae'n hyfryd gwybod bod rhywun yn meddwl amdanaf ac yn ffonio bob wythnos i weld os ydw i’n iawn"

"Rydw i’n treulio fy nyddiau yn edrych allan o'r ffenest, yn gwylio pobl yn cerdded heibio. Mae teulu yn gwneud eu gorau, ond mae unigrwydd yn beth erchyll, ac mae bod yn gaeth i'r tŷ yn golygu bod y dyddiau mor hir. Fodd bynnag, bob dydd Iau, rwy'n cadw llygad ar y cloc gan fy mod yn cael galwad cyfeillgarwch gan fy ffrind yn Age Cymru. Mae'n rhoi gwên fawr ar fy wyneb. Rydyn ni'n sgwrsio am tua 25 munud, ac mae'n hyfryd gwybod bod rhywun yn meddwl amdanaf ac yn ffonio bob wythnos i weld os ydw i’n iawn.

Rwy'n hapus iawn gyda'r gefnogaeth rwy'n ei derbyn gan Carys a phe bawn i'n farus, byddwn wrth fy modd yn cael mwy o alwadau ganddi. Mae hi'n gweld y byd yn yr un ffordd a fi, mae gennym ni lawer o bethau i siarad amdanynt. Rwy'n dod â phrofiad i'r sgwrs, ond rydym hefyd yn siarad am wleidyddiaeth, a'r amgylchedd. Rydym yn ffrindiau mawr."


"Rydw i’n teimlo llawer yn well, ac mae gen i hyder nawr i fynnu hawliau fy mam.”

Cysylltodd Bronwen â Chyngor Age Cymru am ei Mam

Roedd mam Bronwen yn yr ysbyty yn aros i gael ei rhyddhau. Roedd hi wedi cael strôc o'r blaen a doedd hi ddim yn medru cyfathrebu ar lafar bellach. Roedd gan Bronwen Atwrneiaeth Arhosol ar ran ei mam ac roedd yn ei chefnogi. Er bod mam Bronwen wedi dweud ei bod hi eisiau parhau i fyw gartref, dechreuodd gweithiwr cymdeithasol mam Bronwen drefnu lleoliad mewn cartref gofal preswyl, ymhell o'i chartref a'i theulu.

"Doeddwn i ddim yn gwybod beth i’w wneud, doeddwn i ddim yn gwybod dim am weithredoedd y Gwasanaethau Cymdeithasol."

Cysylltodd Bronwen â Chyngor Age Cymru a siaradodd ag un o'n cynghorwyr profiadol. Eglurodd bod gweithiwr cymdeithasol ei mam wedi mynnu bod y Gwasanaethau Cymdeithasol yn gallu symud ei mam lle bynnag yr oedden nhw'n teimlo bod angen. Dywedodd Bronwen ei bod hi’n methu cysgu’n iawn oherwydd y sefyllfa. Roedd hi'n teimlo'n drist ac yn ansicr. Doedd hi ddim yn cytuno gyda'r hyn roedd y gweithiwr cymdeithasol wedi ei ddweud, ond doedd hi ddim yn gwybod beth oedd hawliau ei mam.

Dywedodd ein hymgynghorydd wrth Bronwen fod gan ei mam ddewis ynglŷn â ble mae'n byw a'r gofal y mae'n ei dderbyn. Dywedon nhw hefyd y dylai Bronwen fod yn rhan o'r sgwrs. Cefnogwyd Bronwen i nodi gwasanaeth eiriolaeth lleol a allai helpu ei mam i gyfathrebu â'r Gwasanaethau Cymdeithasol a gwnaethant rymuso Bronwen i siarad â gweithiwr cymdeithasol ei mam.

"Rydw i’n teimlo llawer yn well, ac mae gen i hyder nawr i fynnu hawliau fy mam.”

Cefnogodd ein tîm Bronwen a chadarnhaodd ei bod wedi llwyddo i sicrhau gweithiwr cymdeithasol newydd a oedd wedi cefnogi ei mam i symud yn ôl adref yn ddiogel. Rhannodd Bronwen ei bod yn teimlo'n llawer gwell a'i bod bellach yn gallu cysgu'n gyffyrddus. Roedd hi a’i mam wedi meithrin ymddiriedaeth gyda'r gweithiwr cymdeithasol newydd ac roedd ei mam yn gallu parhau i dderbyn y gefnogaeth yr oedd ei hangen arni yng nghysur ei chartref ei hun.

"Heb farnu fe wnaethoch chi wrando arna i, dewis beth oedd yn bwysig a'i gyflwyno mewn trefn amlwg. Roeddech chi'n cydymdeimlo ac yn dosturiol, ac yn broffesiynol wrth ddewis beth oedd yn bwysig. Fe wnaethoch chi roi hyder i mi ac ailddatgan bod fy nheimladau'n gywir."


Helpwch rywun i deimlo'n llai unig

Gyda'ch help chi, gallwn ddarparu cyfeillgarwch a chefnogaeth i'r miloedd o bobl hŷn sy'n treulio'r Nadolig ar eu pennau eu hunain.


Rydyn ni yma i’ch helpu

Rydym yn cynnig cymorth a chyngor drwy Gyngor Age Cymru. Os ydych chi eisiau siarad â rhywun yn uniongyrchol, yn Gymraeg neu’n Saesneg, ffoniwch ni ar 0300 303 44 98 (codir tâl ar gyfradd leol) (ar agor rhwng 9:00am a 4:00pm, Llun - Gwener). E-bostiwch ni gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost advice@agecymru.org.uk

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top