Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

EnvisAGE

Mae EnvisAGE yn gyfnodolyn trafod a olygwyd gan Age Cymru, sy’n archwilio materion sy’n effeithio ar bobl hŷn. Yn y rhifyn hwn, rydym yn ystyried iechyd meddwl a lles pobl hŷn.

Mae Dr Lis Boulton o Age UK yn archwilio’r rhwystrau y gallai pobl hŷn eu profi wrth gael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl, ac mae Sam Young o Age Cymru yn disgrifio effaith pandemig Covid-19 ar iechyd meddwl a lles pobl hŷn.

Mae Laura Tipper o GIG Cymru i gyn-filwyr yn rhoi trosolwg o’r gwasanaeth blaenoriaeth arbenigol sydd yn gweithio i wella iechyd meddwl a lles cyn-filwyr. Mae Claire Morgan a Jane Healey o Ofalwyr Cymru yn tynnu sylw at sut y gall rôl ofalu effeithio’n negyddol ar iechyd gofalwyr di-dâl.

Mae’r erthygl gan Sara Walters yn cynnwys y prosiect Gwreiddiau i Adferiad a gyflwynir mewn partneriaeth rhwng Mind Sir Benfro a Chaerfyrddin ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Mae Gail Colbridge o Age Cymru Powys a Rachael Owen, Gofal a Thrwsio ym Mhowys yn rhoi cipolwg ar brosiect Mamwlad sy’n hyrwyddo lles mewn cymunedau gwledig.

Yn ein herthygl olaf, mae Bethan Edwards o Marie Curie Cymru yn canolbwyntio ar y cymorth sydd ar gael i bobl ledled Cymru sydd wedi dioddef profedigaeth.

 

 

Last updated: Maw 28 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top