Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Llythyr at sylw’r Golygydd Annwyl olygydd,

Published on 02 Gorffennaf 2024 09:39 yb

Rydym yn gwybod y gallai rhai o'ch darllenwyr hŷn fod yn profi anawsterau wrth geisio ymdopi â materion bob dydd.  Materion fel cael mynediad at wasanaethau meddygon teulu, delio â chyflenwyr ynni, neu gymryd rhan mewn digwyddiadau cymunedol.

Fodd bynnag, gall unrhyw un yng Nghymru dros 50 oed, neu rywun sy’n gofalu am berson hŷn, gael cymorth am ddim gan ein gwasanaeth HOPE (Helpu eraill i gymryd rhan ac ymgysylltu).

Mae'n brosiect partneriaeth a ddarperir gan Age Cymru ac Age Connects Wales, ynghyd â'u partneriaid lleol, ac mae ar gael mewn cymunedau ledled Cymru.

Mae HOPE yn defnyddio gwirfoddolwyr hyfforddedig i helpu pobl i gael mynediad at wasanaethau hanfodol, ac i gael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt er mwyn gwneud dewisiadau gwybodus.

Mae'n ceisio helpu pobl i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed pan fydd angen gwneud penderfyniadau pwysig sy'n effeithio ar eu bywydau.

Os hoffai unrhyw un o'ch darllenwyr gael mwy o wybodaeth am wasanaeth HOPE ffoniwch 029 2043 1555, e-bostiwch advocacy@agecymru.org.uk neu ewch i www.agecymru.org.uk/advocacy.

Yn gywir

Louise Hughes (Pennaeth Diogelu ac Eiriolaeth)

 

Last updated: Gor 02 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top