Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Gallai hawlio Lwfans Gweini a budd-daliadau eraill helpu miloedd o bobl hŷn yng Nghymru sy’n byw mewn tlodi, meddai Age Cymru

Published on 02 Gorffennaf 2024 09:46 yb

Darllenwch sut mae hawlio Lwfans Gweini wedi trawsnewid bywyd Carol mewn cymuned wledig Gymreig

Archebwch ein canllaw am ddim, Mwy o arian yn eich poced

Gallai hawlio budd-daliadau fel Lwfans Gweini a Chredyd Pensiwn helpu miloedd o bobl hŷn yng Nghymru sy’n byw mewn tlodi ar hyn o bryd, meddai Age Cymru.

Mae'r elusen yn annog pobl hŷn a'u gofalwyr i archwilio pa fudd-daliadau a hawliau y gallant eu hawlio wrth i filiynau o bunnoedd fynd heb eu hawlio yng Nghymru bob blwyddyn.

Y llynedd, helpodd yr elusen pobl hŷn i hawlio gwerth mwy na chwarter miliwn o bunnoedd o Lwfans Gweini a £150k o Gredyd Pensiwn. Ynghyd a’r ystod o fudd-daliadau a hawliau eraill, galluogodd yr elusen bobl hŷn i hawlio cyfanswm o bron i £800,000, gwerth £6,378 ar gyfartaledd ar gyfer pob hawliwr.

Darganfyddodd arolwg Age Cymru (2024), Beth sy'n bwysig i chi, bod bron i hanner (48%) o'r 1300 a mwy o ymatebwyr yn dweud bod yr argyfwng costau byw yn eu hatal rhag cael mynediad at y gweithgareddau yr oeddent yn hoffi eu gwneud fel ymweld â ffrindiau a pherthnasau neu fynychu clwb mewn canolfan ddydd lleol.

Dywedodd Rheolwr Gwybodaeth a Chyngor Age Cymru, Nel Price: "Mae'n rhwystredig iawn bod cymaint o bobl hŷn yng Nghymru yn cael trafferth talu eu biliau ac yn cael eu gorfodi i gwtogi ar eu gweithgareddau cymdeithasol pan mae cymaint o arian yn mynd heb ei hawlio bob blwyddyn.

"Gall methu fforddio pleserau syml fel cwrdd â'u teulu a'u ffrindiau gynyddu ymdeimlad o unigrwydd ac unigedd.

"Y Lwfans Gweini yw un o'r ffynonellau cymorth mwyaf sy'n mynd heb ei hawlio gan fod llawer o bobl yn credu ar gam fod angen bod gofalwr yn ymweld â'ch cartref cyn eich bod yn medru ei hawlio, ac nid yw hynny'n wir.

"Mae Lwfans Gweini yn fudd-dal i bobl sy’n 66 oed neu'n hŷn a allai fod angen cymorth ychwanegol er mwyn parhau i fyw'n annibynnol gartref."

Am fwy o wybodaeth ffoniwch 0300 303 44 98 o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 4pm, e-bostiwch advice@agecymru.org.uk neu ewch i www.agecymru.org.uk/advice

Stori Carol

Roedd Carol wedi dechrau poeni am ei dyfodol pan gysylltodd â Chyngor Age Cymru ym mis Hydref 2023. Roedd ei symudedd wedi gwaethygu. Roedd hi'n byw mewn ardal wledig, mewn tŷ a oedd yn anaddas ar gyfer ei hanghenion, a oedd wedi'i leoli tua dwy filltir o'r llwybr bysiau agosaf. Roedd ei char yn achubiaeth, ond nid oedd Carol yn siŵr y gallai fforddio i gadw’r car am lawer hirach.

Penderfynodd fod yn rhaid iddi ddechrau chwilio am gartref newydd mwy diogel i'w rentu, ychydig yn agosach at amwynderau a thrafnidiaeth gyhoeddus. Wrth iddi ddechrau chwilio, sylweddolodd fod y rhent yn llawer rhy ddrud iddi. Gyda chostau byw yn cynyddu, doedd hi ddim yn siŵr beth fyddai ei dyfodol.

"Roeddwn i wedi anobeithio, doeddwn i ddim yn siŵr beth oeddwn i'n mynd i'w wneud. Roeddwn i'n gwybod na fyddai fy incwm yn talu'r rhent yn unrhyw le arall, ond allwn i ddim parhau i fyw lle roeddwn i. Ro'n i'n poeni y byddwn i'n cwympo a chael dolur."

Cysylltodd Carol â Chyngor Age Cymru i weld os fydden nhw’n gwybod am rywbeth y gallai ei wneud.

Archwiliodd ymgynghorydd arbenigol hawliau budd-dal Carol ac awgrymodd ei bod yn gwneud cais am Lwfans Gweini. Fe wnaethom ei helpu i ddeall y meini prawf cymhwysedd ac eglurom y gallai gael help gyda'r ffurflenni cais. Gwnaethom hefyd awgrymu y dylai gysylltu ag adran dai'r awdurdod lleol i gofrestru ar gyfer eiddo addas y cyngor neu'r gymdeithas dai.

"Mae fy chwaer yn cael Lwfans Gweini ond mae hi'n hŷn na fi - mae hi'n 92 oed, ac mae ganddi ofalwyr i’w chefnogi. Doedd gen i ddim syniad y gallwn fod â hawl iddo gan fy mod yn byw ar fy mhen fy hun, a does neb yn gofalu amdanaf!"

Wedi cyfnod o amser, siaradodd ein tîm gyda Carol, a chadarnhaodd ei bod bellach yn derbyn y gyfradd Lwfans Gweini is. Cafodd hyn effaith gadarnhaol ar ei hawl i fynnu Credyd Pensiwn, gan gynyddu ei hincwm o £122 yr wythnos.

Mae Carol wedi bod mewn cysylltiad ag adrannau tai Conwy a Sir Ddinbych ac mae bellach ar y rhestr yn aros am eiddo cyngor. Yn y cyfamser, mae hi'n gwybod y gall fforddio i gadw ei char ac os daw eiddo addas, bydd hi'n gallu fforddio'r rhent. Nawr bod ganddi ychydig mwy o incwm, gall hefyd fynd allan i weld ei ffrindiau.

"Mae'n rhyddhad enfawr. Gallaf edrych i'r dyfodol nawr. Dydw i ddim wedi dod i arfer â chael ychydig yn fwy o arian eto, ond es i allan i'r siop goffi am y tro cyntaf ers amser mawr yn ddiweddar, roedd yn wych! Byddwn i'n argymell unrhyw un sydd yn yr un sefyllfa ag oeddwn i i alw Age Cymru. Mae wedi newid fy mywyd i."

Mwy o arian yn eich poced

Mwy o Arian yn eich poced yw canllaw dwyieithog Age Cymru sy'n darparu ystod eang o wybodaeth am dri maes pwysig: pensiynau, eich cartref a'ch lles.

Mae'r elfen bensiynau yn canolbwyntio ar Bensiwn y Wladwriaeth, Credyd Gwarant, Credyd Pensiwn a Chredyd Cynilo’r Credyd Pensiwn.

Mae'r adran am eich cartref yn cynghori ar hawlio o Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor eich awdurdod lleol, Budd-dal Tai, Taliadau Tanwydd y Gaeaf, Taliadau Tywydd Oer, a'r Gostyngiad Cartref Cynnes.

Mae'r adran lles yn edrych ar dalu treuliau brys neu untro, help gyda chostau iechyd, a help gyda chost triniaeth ddeintyddol, sbectol neu lensys cyffwrdd a chostau teithio penodol i dderbyn triniaeth gan y GIG.

Mae hefyd yn rhoi manylion am Lwfans Gweini a all ddarparu hyd at £72.65 yr wythnos os oes angen help arnoch yn ystod y dydd neu gyda'r nos, neu £108.55 os oes angen help arnoch yn ystod y dydd a'r nos.   Mae hefyd yn edrych ar Lwfans Gofalwr a all ddarparu hyd at £81.90 yr wythnos.

I archebu eich copi am ddim, ffoniwch 0300 303 44 98 o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 4pm, e-bostiwch advice@agecymru.org.uk neu ewch i www.agecymru.org.uk/advice

 

Last updated: Gor 02 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top