Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Cefnogwch ni ar-lein

Mae yna nifer o ffyrdd o godi arian i ni ar-lein.

Ffordd newydd o’m cefnogi – anfonwch e-garden gan ddefnyddio DontSendMeACard.com, a rhoi cost carden bapur a stampiau i Age Cymru. Gallwch ddefnyddio’r wefan hon i anfon e-gardiau ar gyfer achlysuron arbennig, a rhoi cost carden bapur i ni.

Sut mae gwneud hyn?

  1. Ewch i dudalen we DontSendMeACard.com
  2. Ysgrifennwch e-garden a neges
  3. Rhowch yr arian fyddech chi wedi ei wario ar gardiau a stampiau i’r elusen
  4. Anfonwch eich e-garden a’ch neges drwy’r dudalen we

Mae yna e-gardiau ar gyfer pob achlysur, Diwrnod Sant Ffolant, Sul y Mamau, penblwyddi a hyd yn oed Nadolig. Mae DontSendMeACard.com yn cynnig amrywiaeth o gardiau ac opsiynau.

Oes angen i mi greu cyfrif?

Na, mae DontSendMeACard.com wedi gwneud y broses mor syml â phosib, felly gallwch ddewis e-garden a gwneud rhodd o’ch arian, yn hytrach na gorfod creu cyfrif yn gyntaf.

Bydd pob rhodd ariannol yn cael ei rhoi tuag at sicrhau ein bod ni yma ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru sydd heb neb i’w cefnogi.

Easyfundraising

Rydyn ni wrth ein bodd i gyhoeddi ein bod ni wedi cofrestru gydag easyfundraising. Mae’n blatfform ar-lein gwych sy’n eich galluogi chi i roi wrth i chi brynu pethau, a chefnogi Age Cymru wrth siopa ar-lein.

Mae dros 8,000 o adwerthwyr yn cymryd rhan, yn cynnwys Tesco, Booking.com, JUSTEAT a Compare the Market. Mae yna opsiynau ar gyfer pawb.

Ydych chi’n barod i wneud gwahaniaeth? Mae cofrestru’n hawdd. Ymunwch gyda ni.

 

Last updated: Mai 24 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top